RE: Dance for"Y Tylwyth Teg" (the Fair Family), enw torfol, yw Fairies? Yr unig ffordd naturiol o gyfeirio at un yw "un o'r tylwyth teg", ond mae tylwythyn teg/tylwythen deg *weithiau* yn cael ei ddefnyddio. Dw i'n meddwl y dylid osgoi'r rhain, heb son am osgoi creu lluosog annaturiol, newydd. Mae 'na nifer o ddewisiadau ar gyfer "haymaker" yng Ngeiriadur yr Academi hefyd (a medelwyr gwair.yn un arall nad yw yno), ond nid "torrwyr gwair". Ann ----- Original Message ----- From: Puw, John To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, March 12, 2003 10:45 AM Subject: Re: Dance for Oni fyddai "Dawns y Tylwythod", "Dawns y Dynion Gwyrdd" a "Dawns y Torrwyr Gwair???" yn gweddu'n well na "Dawns i'r ..." John -----Original Message----- From: Gwen Rice [mailto:[log in to unmask]] Sent: 12 March 2003 10:38 To: [log in to unmask] Subject: Dance for Cyd-destun: Cerddoriaeth Y teitlau yw: "Dance for the Fairies", "Dance for the Green Men" a "Dance for the Haymakers". O ystyried beth sydd ar ôl y gair 'for', wn i ddim mewn gwirionedd ai 'for ' ynteu 'of' yw'r ystyr. Oes gan unrhyw un syniad? Os 'for' yw'r ystyr, ydy 'i' yn dderbyniol (am ei fod yn fyrrach nag 'ar gyfer'!) ynteu a oes modd cael 'Dance to' hefyd? Diolch am unrhyw oleuni. Gwen Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig. Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda. Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig, fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon. This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police. The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged. It is intended only for the person or entity named above. If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system. If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.