Print

Print


Cytuno'n llwyr.  Mae "grwpiau trafod" yn dweud y dweud yn glir, cryno a di-ffwdan.
John
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">teulu lewis
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">John Puw
Sent: Monday, March 03, 2003 12:24 PM
Subject: Re: breakout sessions

Am fy mod i'n hen a boring ac wedi syrffedu ar bobl yn meddwl am ryw dermau gwirionach na'i gilydd i ddweud hen wirioneddau, pan ddois i ar draws hwn cefais strop, gwrthod ceisio meddwl am eiriau newydd a chadw at grwpiau trafod. Wnes i ddim hyd yn oed eu rhannu na dim arall. Oedd angen? Breakout sessions, wir - mae'n gwneud i'r cynadleddau ma swnio fel Colditz - wrth feddwl, falle bod y term yn ddisgrifad da o feddylfryd y cynadleddwyr!
Magi
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">annes
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, March 03, 2003 12:17
Subject: breakout sessions

Hy pan fydd cynhadledd yn ymrannu'n grwpiau trafod llai. Oes gan rywun rywbeth bachog? Allwn i ddefnyddio ymrannu am wn i ond mae'n swnio braidd yn sychlyd. Ydi sesiynau brigo a) yn cyfleu'r ystyr; b) yn ddealladwy? Ynteu gwell chwarae'n saff a deud ymrannu?
 
Diolch ymlaen llaw
 
Annes