Print

Print


manager/chief executiveGofynnodd Berwyn:


Oes unrhyw un wedi dechrau so^n am 'llywodraethydd', 'tywyosgydd', 'dugydd' eto?

Mae'n debyg bod rhywun yn defnyddio 'llywodraethydd"

http://www.global-meeting.co.uk/walesforinnovation/spkrs_we.htm

www.eoc.org.uk/cswel/research/ eocmwpolitics8page20_3new.pdf 







  ----- Original Message ----- 
  From: Berwyn Jones 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Tuesday, March 11, 2003 9:32 AM
  Subject: Re: manager/chief executive


  Mae'r tawelwch llethol yn awgrymu mai 'na all' yw'r ateb!

  Dyma rai o'r ystyriaethau:

  1.  Mae'r terfyniad '-ydd' yr un mor 'wrywaidd' ag '-wr'. Fe ellid, er enghraifft, ddweud 'Prif Weithredyddes' yn union fel y bydd dyn yn so^n am 'cogyddes', 'ysgrifenyddes' a 'teipyddes' (er 'mod i wedi clywed gwrthwynebiad i'r ddwy ffurf olaf hefyd). 

  2.  Wela i ddim byd o'i le ar 'rheolwr(aig)/prif weithredwr(aig)', ac mae ffurfiau fel 'cyfarwyddydd' yn merwino fy nghlustiau. Barn bersonol yw hon, wrth gwrs! (Oes unrhyw un wedi dechrau so^n am 'llywodraethydd', 'tywyosgydd', 'dugydd' eto?)

  3.  Er 'mod i'n deall yr awydd i deitl swydd beidio a^ dynodi rhyw'r sawl sy'n ei chyflawni, rwyf hefyd wedi sylwi bod merched yn rhanedig eu barn ynghylch bathu ffurfiau di-ryw ar deitlau swyddi - rhai'n daer a phendant o blaid ffurfiau 'diryw' er mwyn dileu rhagfarn warthus yr oesoedd a fu, ac eraill yn ddigon sicr o'u benyweidd-dra i ddweud "dwi cystal ag unrhyw ddyn, beth bynnag yw teitl y swydd!". I mi, dwy farn gwbl deg. Rwy'n siw^r y byddai dynion yr un mor rhanedig petai hyn yn codi yn eu hachos hwy.

  4.  Agwedd arall eto ar broblem 'rheolwr/rheolwraig/rheolydd' yw ein bod ni'n (gorfod) defnyddio 'rheoli' i gyfieithu geiriau Saesneg sydd i gyd ag ystyron lled wahanol, sef 'to control, manage, regulate'.

  Fy argymhelliad i fyddai dangos y ddwy ffurf - gwyrwaidd a benywaidd - yn hytrach nag un ymddangosiadol-ddiryw. Ond y peth pwysicaf, efallai, fyddai penderfynu'r naill ffordd neu'r llall a gweithredu'r penderfyniad hwnnw mor gyson a^ phosib, gan gydnabod nad oes modd bod yn gwbl gyson bob tro!

  Berwyn
    ----- Original Message ----- 
    From: Mandi Morse 
    To: Berwyn Prys Jones 
    Sent: Monday, March 10, 2003 5:34 PM
    Subject: manager/chief executive




    All rhywun ddweud wrtha i ydy hi'n dderbyniol defnyddio 'rheolydd' yn hytrach na 'rheolwr' ar gyfer 'manager' oherwydd dwi'n ymwybodol y gall 'rheolydd' hefyd olygu 'regulator'. Yn yr un modd, ai'r norm yn awr yw defnyddio 'Prif Weithredydd' yn hytrach na 'Prif Weithredwr' ar gyfer 'Chief Executive?'

    Diolch am unrhyw sylwadau 


    Mae'r e-bost hwn yn gyfrinachol a'i unig bwrpas yw darparu gwybodaeth. Ni ddylid datgelu'r cynnwys i unrhyw berson anawdurdodedig. Ni ddylid ystyried fod yr Awdurdod yn hyrwyddo unrhyw farnau, casgliadau nac unrhyw wybodaeth arall sydd yn y neges nad ydynt yn berthnasol i fusnes swyddogol ACCAC, neu sy'n bersonol i'r un sy'n anfon y neges, ac nid yw'r Awdurdod yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb trostynt. Os y derbyniasoch yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, byddwch cystal â chysylltu â [log in to unmask], gan ddileu'r neges e-bost hwn o'ch systemau, ac unrhyw systemau storio eraill, heb oedi.

    This email is confidential and is provided for information only.
    The contents may not be disclosed to any unauthorised person. Opinions,
    conclusions and other information contained in this message that do not relate to the official business of ACCAC, or are personal to the individual sender, shall not be understood as endorsed by the Authority and no liability will be accepted. 
    If you have received this email in error please reply to [log in to unmask] and delete the email immediately from your systems and other storage devices.
    ___________________________________________________________________
    This message has been checked for all known viruses by the
    MessageLabs Virus Scanning Service. For further information visit
    http://www.messagelabs.com/stats.asp



    ---
    Outgoing mail is certified Virus Free.
    Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
    Version: 6.0.459 / Virus Database: 258 - Release Date: 25/02/03