Rwy'n hoffi cynnig Catrin, ond a fyddai'n fwy trawiadol o'i gwtogi i 'Gwerth ... Gwefr ... Gwych' neu rywbeth tebyg ('Gwefr ... Gwynfyd ... Gwych')? Berwyn ----- Original Message ----- From: Catrin Alun To: Berwyn Prys Jones Sent: Friday, March 07, 2003 3:36 PM Subject: Re: hen betha clyfar Beth am Gwerthfawr ..... Gwefreiddiol ....... Gwynfyd! Catrin ----- Original Message ----- From: annes To: [log in to unmask] Sent: Friday, March 07, 2003 2:49 PM Subject: hen betha clyfar Dwn i ddim pa deitl arall i'w roi, sorri. Isbenawdau llyfryn Neuadd Dewi Sant - Enrichening Enlighteneing ...Enjoy! Mae gofyn rhywbeth bachog a dwi'n teimlo bod gofyn cyflythrennu os byth fyw bosib. Meddwl am Golud & Goleuni - fedra i get awe efo defnyddio 'golud' yn ffigyrol ynteu ydi o'n rhy ddiriaethol? Ond wedyn dwi'n styc efo enjoy. Dwi'n cofio yn Llyfr Mawr y Plant stalwm y deud 'Roedd yna dri pheth yr oedd Sian Slei Bach yn eu clywed yn dda - swn cwn yn cyfarth, swn dynion yn siarad ac ogla' - rhywbeth da felna s'arna i isio - unrhyw gynigion gan y cylch ffraeth PLIS? Diolch Annes