RE: on a like for like basis
Y drafferth gyda defnyddio 'neilltuo' neu
'clustnodi' yw nad oes gennych wedyn dim byd i gyfieithu 'set aside'
nac 'earmarked'. Beth bynnag, mae modd i gorff newid ei feddwl
ynghylch arian sydd wedi'i 'neilltuo' neu'i 'glustnodi' a'i wario ar rywbeth
arall; holl ergyd y term 'ring fenced'
yw na allwch ddefnyddio'r arian at ddiben arall. Felly byddai
rhywbeth ar hyd llinellau 'corlannu', 'cylchamddiffyn' neu 'gwarchod' yn
nes ati.
Claire a Falmai