Cynhaliais arbrawf bach gydag offer cyfieithu peirianyddol Google.
Gofynnais iddo gyfieithu'r brawddegau hyn i'r Eidaleg:
"This is progressing well and no concerns have been highlighted. The plan is off target and expected to overrun by 9 months.
This is progressing well and no concerns have been highlighted. The plan is on target."
Roeddwn yn deall yn fras beth oedd y cyfieithiad Eidaleg yn ei ddweud, ond nid wyf yn darllen Eidaleg yn ddigon trwyadl i roi sylw ar y cyfieithiad. Fodd bynnag, pan ofynnais iddo gyfieithu'r Eidaleg yn ôl i'r Saesneg, dyma'r hyn a gafwyd:
"This is progressing well and no worry has been evidenced. The program is outside of the objective and thought to surpass within 9 months.
This is progressing well and no worry has been evidenced. The program is on the objective."
Roedd y gwreiddiol yn eithaf rhydd o "jargon" arferol y sefydliad hwn, ac nid yw'n eithriadol o anodd. Ond mae hyd yn oed y "gyst" braidd yn niwlog yma. Rwy'n derbyn bod y gwreiddiol wedi ei gyfieithu ddwywaith, ond Duw a wyr beth fyddai wedi digwydd i destun anodd go iawn.
Gofal pia hi, chwedl Ifans y Tryc
-----Original Message-----
From: D.Prys [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 26 March 2003 13:15
To: [log in to unmask]
Subject: Re: meddalwedd cyfieithu
'Cyfieithu peirianyddol' yw'r term a ddefnyddiwn ni yn Gymraeg am
'machine translation' (MT) - sef rhaglen gyfrifiadurol sy'n cyfieithu'n
awtomatig rhwng dwy iaith. Mae hyn i'w gyferbynnu a'r rhaglenni y
cyfeiria Ann atynt sef 'translation memory systems' (TM) neu 'cof
cyfieithu'. Mae rhaglenni cof cyfieithu yn gweithio'n dda gyda'r Gymraeg
- gw. yr adran ar ein safle hyfforddi > http://www.e-gymraeg.org/hyfforddiant/Cymraeg/cofcyfieithu.htm
am fwy o fanylion am hyn. Mae cyfieithu peirianyddol yn ddefnyddiol i roi
bras gyfieithiad (gist translation) o ddogfen mewn iaith nad ydych yn ei
deall
- nid yw'n cystadlu a chyfieithwyr o gig a gwaed o ran cywirdeb na
naturioldeb iaith.
Dro nol cysylltais a John Phillips yn Japan i weld a oedd modd gweithio
gydag ef i ddatblygu ei system cyfieithu peirianyddol ymhellach. Hyd yn
hyn rydym wedi methu cael neb i noddi'r fenter, ond os ydych chi'n
gwybod am rywun a hoffai wneud, cysylltwch a ni ar frys!
Delyth