----- Original Message -----
Sent: Monday, March 03, 2003 12:24
PM
Subject: Re: breakout sessions
Am fy mod i'n hen a boring ac wedi
syrffedu ar bobl yn meddwl am ryw dermau gwirionach na'i gilydd i ddweud hen
wirioneddau, pan ddois i ar draws hwn cefais strop, gwrthod ceisio meddwl am
eiriau newydd a chadw at grwpiau trafod. Wnes i ddim hyd yn oed eu rhannu na
dim arall. Oedd angen? Breakout sessions, wir - mae'n gwneud i'r cynadleddau
ma swnio fel Colditz - wrth feddwl, falle bod y term yn ddisgrifad da o
feddylfryd y cynadleddwyr!
Magi
----- Original Message -----
Sent: Monday, March 03, 2003
12:17
Subject: breakout sessions
Hy pan fydd cynhadledd yn ymrannu'n grwpiau
trafod llai. Oes gan rywun rywbeth bachog? Allwn i ddefnyddio ymrannu am
wn i ond mae'n swnio braidd yn sychlyd. Ydi sesiynau brigo a) yn cyfleu'r
ystyr; b) yn ddealladwy? Ynteu gwell chwarae'n saff a deud
ymrannu?
Diolch ymlaen llaw
Annes