Ai grwpiau trafod (gyda phawb yn cymryd rhan) yn bendant sydd o dan ystyriaeth yn y Saesneg? Mae amryw o gynadleddau dwi'n gwybod amdanyn nhw yn ymrannu, yn sicr, ond nid i drafod, ond i wrando ar faes o'ch dewis chi yn cael ei drin gan siaradwr penodol. Fe'u gelwir yn sesiynau dewisol neu rywbeth tebyg. Weithiau ceir cwestiynau, ond cwestiynau a atebir gan y siaradwr ydyn nhw ac nid materion a drafodir gan y gynulleidfa. Gwen -----Original Message----- From: John Puw [mailto:[log in to unmask]] Sent: 03 March 2003 12:28 To: [log in to unmask] Subject: Re: breakout sessions Cytuno'n llwyr. Mae "grwpiau trafod" yn dweud y dweud yn glir, cryno a di-ffwdan. John ----- Original Message ----- From: teulu <mailto:[log in to unmask]> lewis To: John Puw <mailto:[log in to unmask]> Sent: Monday, March 03, 2003 12:24 PM Subject: Re: breakout sessions Am fy mod i'n hen a boring ac wedi syrffedu ar bobl yn meddwl am ryw dermau gwirionach na'i gilydd i ddweud hen wirioneddau, pan ddois i ar draws hwn cefais strop, gwrthod ceisio meddwl am eiriau newydd a chadw at grwpiau trafod. Wnes i ddim hyd yn oed eu rhannu na dim arall. Oedd angen? Breakout sessions, wir - mae'n gwneud i'r cynadleddau ma swnio fel Colditz - wrth feddwl, falle bod y term yn ddisgrifad da o feddylfryd y cynadleddwyr! Magi ----- Original Message ----- From: annes <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> Sent: Monday, March 03, 2003 12:17 Subject: breakout sessions Hy pan fydd cynhadledd yn ymrannu'n grwpiau trafod llai. Oes gan rywun rywbeth bachog? Allwn i ddefnyddio ymrannu am wn i ond mae'n swnio braidd yn sychlyd. Ydi sesiynau brigo a) yn cyfleu'r ystyr; b) yn ddealladwy? Ynteu gwell chwarae'n saff a deud ymrannu? Diolch ymlaen llaw Annes