Print

Print


Da iawn ti. Gwaith ardderchog - mae llawer ffordd o gael Wil i'w wely yn does - dal ati ydy'r gyfrinach. Termau yn champion o'm rhan i  - h.y. dwi'n dallt nhw'n iawn!
Magi
  ----- Original Message ----- 
  From: Muiris Mag Ualghairg 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Tuesday, February 04, 2003 03:20
  Subject: Swyddfa Cofnodion Troseddol


  Gyfeillion,

  Rhaid imi gyfaddef i mi gysylltu â'r CRB (yn gwisgo fy het arferol fel aelod o'r cyhoedd a chyn-ymgyrchydd iaith) i gwyno am eu polisi hurt o ddefnyddio geiriau Saesneg yng nghanol y testun Cymraeg ac maent wedi cytuno i newid yr arferiad ac i ddefnyddio fersiynau Gymraeg o hyn ymlaen - OND - maen nhw wedi gofyn am fy help gyda'r termau (newydd dderbyn galwad ffôn ac ebost ac maen nhw eisiau'r teitlau yn ôl heddiw!) felly dyma beth dw i'n mynd i'w argymell iddynt:

  standard Disclosure - Datgeliad safonol
  enhanced Disclosure - Datgeliad manwl
  basic Disclosure - Datgeliad sylfaenol 


  A yw'r rhain yn dderbyniol i bawb neu a oes unrhyw awgrymiadau eraill - byddwn yn croesawu adborth cadarnhaol neu negyddol!

  Muiris


  ---
  Outgoing mail is certified Virus Free.
  Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
  Version: 6.0.449 / Virus Database: 251 - Release Date: 27/01/03