Print

Print


Gorau po gyntaf i'r CRB sortio hyn allan.  Os deallais yn iawn yr hyn a glywais mewn cyfarfod neithiwr, nid yw gweithwyr ieuenctid nag athrawon ysgol Sul un enwad wedi llenwi'r ffuflenni priodol ar gyfer gweithio efo plant eto oherwydd nad oes ffurflenni ar gael yn y Gymraeg - hyn yn sefyllfa sydd wedi mynd ymlaen ers misoedd.
 
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Tim Saunders
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, February 04, 2003 3:19 PM
Subject: Re: Swyddfa Cofnodion Troseddol

Edrych yn addawol - cymeraf bip ar fy ffynonellau cyfreithiol heno.
 
Tim
-----Original Message-----
From: Muiris Mag Ualghairg [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 04 February 2003 15:20
To: [log in to unmask]
Subject: Swyddfa Cofnodion Troseddol

Gyfeillion,
 
Rhaid imi gyfaddef i mi gysylltu â'r CRB (yn gwisgo fy het arferol fel aelod o'r cyhoedd a chyn-ymgyrchydd iaith) i gwyno am eu polisi hurt o ddefnyddio geiriau Saesneg yng nghanol y testun Cymraeg ac maent wedi cytuno i newid yr arferiad ac i ddefnyddio fersiynau Gymraeg o hyn ymlaen - OND - maen nhw wedi gofyn am fy help gyda'r termau (newydd dderbyn galwad ffôn ac ebost ac maen nhw eisiau'r teitlau yn ôl heddiw!) felly dyma beth dw i'n mynd i'w argymell iddynt:
 
standard Disclosure - Datgeliad safonol
enhanced Disclosure - Datgeliad manwl
basic Disclosure - Datgeliad sylfaenol
 
 
A yw'r rhain yn dderbyniol i bawb neu a oes unrhyw awgrymiadau eraill - byddwn yn croesawu adborth cadarnhaol neu negyddol!
 
Muiris
 

---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.449 / Virus Database: 251 - Release Date: 27/01/03