Print

Print


Gyfeillion,

Rhaid imi gyfaddef i mi gysylltu â'r CRB (yn gwisgo fy het arferol fel aelod o'r cyhoedd a chyn-ymgyrchydd iaith) i gwyno am eu polisi hurt o ddefnyddio geiriau Saesneg yng nghanol y testun Cymraeg ac maent wedi cytuno i newid yr arferiad ac i ddefnyddio fersiynau Gymraeg o hyn ymlaen - OND - maen nhw wedi gofyn am fy help gyda'r termau (newydd dderbyn galwad ffôn ac ebost ac maen nhw eisiau'r teitlau yn ôl heddiw!) felly dyma beth dw i'n mynd i'w argymell iddynt:

standard Disclosure - Datgeliad safonol
enhanced Disclosure - Datgeliad manwl
basic Disclosure - Datgeliad sylfaenol 


A yw'r rhain yn dderbyniol i bawb neu a oes unrhyw awgrymiadau eraill - byddwn yn croesawu adborth cadarnhaol neu negyddol!

Muiris


---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.449 / Virus Database: 251 - Release Date: 27/01/03