Print

Print


> 
> Also state how you will measure accurately with precision and skill.


Mae’n ymddangos i mi mai’r hyn sy’n gwneud yr ymadrodd yn anodd i’w 
gyfieithu yw’r ffaith nad yw’r amlhau geiriau yn y Saesneg yn ychwanegu 
dim at yr ystyr.

Sut gellid  ‘....measure accurately without precision.. .’ neu 
‘....measure inaccurately with precision..’?

Mae’r math yma o ymadrodd yn britho dogfennau cyrff arholi ac asesu ym 
myd addysg gwyddoniaeth a cheir enghreifftiau mwy ystyrlon yn e.e.

dogfennau’r Cwricwlwm Cenedlaethol tudalen 55 Lefel 8
Yn Gymraeg: http://www.accac.org.uk/download_pdf/w_science.pdf
Yn Saesneg: http://www.accac.org.uk/download_pdf/science.pdf

a hefyd yn nogfennau CBAC ar lein: http://www.cbac.co.uk/tgau.html

Cytuno â’r hyn mae Ann a Wyn yn ei ddweud.

Prys

_______________________________________________

J P M Jones MA PhD CChem FRSC
Prifysgol Cymru - Bangor - University of Wales
Trefenai
Ffordd Caergybi
BANGOR
Gwynedd
LL57 2PX

tel: 01248 382955/383013/351151
ffacs: 01248 383990
_______________________________________________