From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Mair EdwardsTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Wednesday, February 12, 2003 1:35 PMSubject: Termau Cryfderau Cenedl
Annwyl Bawb
Tybed fedrwch chi helpu? Mae cyd-weithiwr i mi yn gweithio ar y cyd â seicolegwyr yn yr UD ar brosiect enfawr sy'n edrych ar elfennau o gryfderau personol sy'n cael eu hadnabod a/neu yn bwysig i ddiwylliant neu genedl arbennig. Er enghraifft - mae'n debyg bydde elfen cymeriad o "gonest" neu "onestrwydd" yn cael ei adnabod yn y rhan fwyaf o ddiwylliannau - ond o bosib bod ei bwysigrwydd fel cryfder - rhywbeth bydde pob rhiant yn dymuno ei weld yn ei blentyn/phlentyn - yn gwahaniaethu rhwng diwylliannau.
Er mwyn helpu fy nghyfaill rwyf nawr yn chwilio am eiriau yn y Gymraeg - sy'n cyfleu neu ddisgrifio elfen cymeriad sy'n unigryw yn y Gymraeg - hynny ydi, lle nad oes union gyfieithiad o'r gair neu'r elfen yn y Saesneg neu lle nad yw'r gair Saesneg yn cyfleu yn union yr un "teimlad" a'r Gymraeg.
Gyda llawer o ddiolch
Mair
*********************************************************************
Dr Mair Edwards
Seicolegydd Clinigol / Clinical Psychologist
Cymrawd Dysgu / Teaching FellowYstafell 214 Room 214
Adeilad Brigantia Adeilad Brigantia
Ysgol Seicoleg School of Psychology
Prifysgol Cymru Bangor University of Wales, Bangor
BANGOR LL57 2AS BANGOR LL57 2AS
01248 388360 neu/or 07967 591048
[log in to unmask]