Termau Cryfderau CenedlFel cychwyn: bro cymdeithas - nid fel cyfieithiad o'r Saesneg (lle byddai 'cymdogaeth' weithiau'n well), ond mewn Cymraeg naturiol, fel "cymdeithas glos") agos atoch bob amser 'run fath Ann ----- Original Message ----- From: Mair Edwards To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, February 12, 2003 1:35 PM Subject: Termau Cryfderau Cenedl Annwyl Bawb Tybed fedrwch chi helpu? Mae cyd-weithiwr i mi yn gweithio ar y cyd â seicolegwyr yn yr UD ar brosiect enfawr sy'n edrych ar elfennau o gryfderau personol sy'n cael eu hadnabod a/neu yn bwysig i ddiwylliant neu genedl arbennig. Er enghraifft - mae'n debyg bydde elfen cymeriad o "gonest" neu "onestrwydd" yn cael ei adnabod yn y rhan fwyaf o ddiwylliannau - ond o bosib bod ei bwysigrwydd fel cryfder - rhywbeth bydde pob rhiant yn dymuno ei weld yn ei blentyn/phlentyn - yn gwahaniaethu rhwng diwylliannau. Er mwyn helpu fy nghyfaill rwyf nawr yn chwilio am eiriau yn y Gymraeg - sy'n cyfleu neu ddisgrifio elfen cymeriad sy'n unigryw yn y Gymraeg - hynny ydi, lle nad oes union gyfieithiad o'r gair neu'r elfen yn y Saesneg neu lle nad yw'r gair Saesneg yn cyfleu yn union yr un "teimlad" a'r Gymraeg. Gyda llawer o ddiolch Mair ********************************************************************* Dr Mair Edwards Seicolegydd Clinigol / Clinical Psychologist Cymrawd Dysgu / Teaching Fellow Ystafell 214 Room 214 Adeilad Brigantia Adeilad Brigantia Ysgol Seicoleg School of Psychology Prifysgol Cymru Bangor University of Wales, Bangor BANGOR LL57 2AS BANGOR LL57 2AS 01248 388360 neu/or 07967 591048 [log in to unmask]