Print

Print


Falle nad ydi hyn yn berthnasol iawn i'r dasg dan sylw, ond tybed a oes yna rywun allan yna sy'n cofio llyfr o rigymau byrion gwreiddiol (a^ lluniau) at yr union ddiben yma?

Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw'n ddefnyddiol wrth ymarfer un sain ar y tro, yn hytrach nag i gyflwyno dwy sain ar yr un pryd a drysu rhywun!  

Mae'n rhaid bod y llyfr wedi gwneud cryn argraff arna' i ** mlynedd yn o^l - mae ambell un wedi aros yn y cof e e

"Hwch a chwech o foch, hwch yn galw'n groch, 'soch, soch, soch, am fwyd i gyd, moch bach gorau yn y byd'", 

"papur, pupur, pop, popeth yn y siop, papur, pupur, pys, yn siop fach Poli Prys"  

a rhywbeth fel 
"cath heb ei bath oedd cath Ty Brith, yn troi i'r dde, yn troi i'r chwith..." 


Teimlaf fod angen mwy o ddeunydd gwreiddiol fel hyn.

Eirlys W