Print

Print


Roeddwn i'n meddwl ein bod ni wedi dihysbyddu'r pwnc hwn erbyn hyn, ond dros goffi mi gofiodd Bruce "chwech o sachau sychion".  Dyw o ddim yn cofio a oedd rhagor i'r cwlwm, neu a oedd y camp yn dod o ailadrodd yr ymadrodd drosodd a throsodd.  Tybed a fydd hyn yn procio cof rhywun arall i orffen y frawddeg?

O ran seineg y Gymraeg - pwnc nad ywf yn gwybod llawer amdan - caf yr argraff fod 'ch' yn air poblogaidd mewn cylymau tafod.  Sylwais hefyd yn y blynyddoedd diwethaf o ddysgu Cymraeg i Oedolion fod dysgwyr sydd wedi meistrioli "Llan" a "llacio" yn dal i gael trafferth efo geiriau fel "allt", lle mae'r 'll' yn dod yn nes ymlaen neu ar y diwedd.  Wn i ddim a yw hyn ond yn fater o hoffi cael y llythyren anosaf drosodd er mwyn canolbwyntio ar y gweddill, neu a oes eglurhad mwy 'gwyddonol'?

Ann

----- Original Message ----- 
  From: Muiris Mag Ualghairg 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Tuesday, February 11, 2003 11:19 AM
  Subject: Re: Cwlwm Tafod


  Doeddwn i ddim wedi ystyried hynny ac mae hynny'n arwain at bwynt arall - os ydynt eisiau ymarfer swn arbennig, a fydd o reidrwydd yn berthnasol i seineg y Gymraeg? Os na fydd, oni fyddai'n well perswadio'r cwsmer bod angen 'addasiad' yn hytrach na chyfieithiad?
    ----- Original Message ----- 
    From: Ann Corkett 
    To: [log in to unmask] 
    Sent: Tuesday, February 11, 2003 11:14 AM
    Subject: Re: Cwlwm Tafod


    Peth gwahanol a'm trawodd yn y drafodaeth o'r blaen oedd - a yw pobl weithiau'n gofyn am gwlwm tafod er mwyn ymarfer llythyren neu swn arbennig?  Os felly, mae rhaid cael gwybod hynny a deall y gofynion - a byddai hynny'n gyfiawnhad dros greu rhywbeth at y diben hwnnw.

    Ann


    ---
    Outgoing mail is certified Virus Free.
    Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
    Version: 6.0.449 / Virus Database: 251 - Release Date: 27/01/03