Print

Print


>Are there welsh versions?? Or welsh tongue twisters that you know of??

Mae'n ymddangos bod y cwsmer eisoes yn agored i'r syniad y gall fod angen defnyddio enghreifftiau gwahanol - a mae digon o'r rheiny wedi'u trafod yn yr wythnosau diwethaf.  Rhowch gyfieithiadau o rhai ohonynt i'r cwsmer - dw i'n siwr bod 'na rai fyddai'n gweddu i gartwn.

Yn bersonol, byddwn i'n gwrthwynebu'n llwyr y syniad o greu cwlwm tafod newydd ynghylch wystrys er mwyn arbed costau argraffu.  Os oes gan blant Cymru hawl i'w hiaith eu hun, mae ganddynt hawl i'w diwylliant eu hun, sy'n cynnwys cylymau tafod traddodiadol yn lle rhai 'gwneud'.  'Dw i'n siwr y bydd y cwsmer yn deall hyn.

Peth gwahanol a'm trawodd yn y drafodaeth o'r blaen oedd - a yw pobl weithiau'n gofyn am gwlwm tafod er mwyn ymarfer llythyren neu swn arbennig?  Os felly, mae rhaid cael gwybod hynny a deall y gofynion - a byddai hynny'n gyfiawnhad dros greu rhywbeth at y diben hwnnw.

Ann
----- Original Message ----- 
  From: Susan Roberts 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Tuesday, February 11, 2003 7:19 AM
  Subject: Cwlwm Tafod


  Unrhyw syniadau?

  Also, I am producing a cartoon colouring in sheet for children. It will have limericks on it, so that schools/those running a promotion could get them to recite them in return for a pen/sticker. Are there welsh versions?? Or welsh tongue twisters that you know of??

  I'm going to use:

  'How much noise annoys an oyster, a noisy noise annoys an oyster'

  and 

  'Nine new noisy, nosey annoying neighbours'

  Bydd darlun o'r cymdogion swnllyd ac o'r wystrys uwchben y rhigwm.

  Diolch ymlaen llaw.

  Sue


  ---
  Outgoing mail is certified Virus Free.
  Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
  Version: 6.0.449 / Virus Database: 251 - Release Date: 27/01/2003