Print

Print


"character
In computer software, any symbol that requires one byte of storage. This
includes all the ASCII and extended ASCII characters, including the space
character. In  character-based software, everything that appears on the
screen, including graphics symbols, is considered to be a character. In
graphics-based applications, the term character is generally reserved for
letters, numbers, and punctuation."

Mae'r diffiniad yn bwysig achos mae gen i bethau fel "peidiwch â defnyddio
enw ffeil sy'n hwy na 50 'character'".

'Rwyf wedi gweld "nodau" sy'n swnio braidd yn amwys, neu mae Bruce yn cynnig
"arwyddion" neu "arwyddnodau", neu 'dwi'n cael fy nhemptio, ar gyfer y
darllennydd cyffredin, i ddweud "llythrennau (mae hyn yn cynnwys rhifau,
bylchau ac atalnodau)" [a oes angen son am fylchau o gwbl yng nghyd-destun
ffeiliau ar y we?]

Unrhyw sylwadau ar arferion cyffredin?

Diolch,

Ann