Mae mwy nag un ystyr i'r gair 'urdd', ac nid yr ystyr o 'Urdd Sant Ffransis', 'Urdd San Bened', ayyb, sydd dan sylw yma. Mae'r cysyniad o 'Urddau Sanctaidd' yn cyfeirio, fel y sylwodd Muiris, at radd o fewn y weinodogaeth ordeiniedig. Fe fu'r Urddau Hyn yn llawer mwy niferus cyn y Diwygiad Protestannaidd, ond dealltwriaeth yr Eglwys yw bod tair ohonynt, sef Diaconiaid, Offeiriaid, ac Esgobion. Tim -----Original Message----- From: Muiris Mag Ualghairg [mailto:[log in to unmask]] Sent: 05 February 2003 17:50 To: [log in to unmask] Subject: Re: priest Pa fath o 'urdd' offeiriadol, inni gatholigion ceir sawl urdd offeiriadol (byddai'r Tad Fitzgerald yn gwybod mwy am y rhain na fi) - er enghraifft ces i f'addysg (peth ohono beth bynnag) mewn coleg Chweched dosbarth o dan arweiniad Cymdeithas Mair - a'r athrawon nad oedd yn lleygwyr yn aelodau o'r urdd honno. Ond at hynny ceir damcaniaeth fod pob offeiriad yn aelod o ryw 'urdd anweledig' (efallai y byddai 'dosbarth' yn well). Dw i ddim wedi rhoi ystyriaeth fanwl i'r wahaniaeth rhwng 'Urddo' ac 'Ordeinio' o'r blaen ond o beth dw i'n cofio y mae aelodau traddodiad isel (efengylaidd) yr Eglwys yng Nghymru yn fwy tebygol o ddefnyddio 'Urddo' offeiriad - gan dderbyn bod eu dealltwriaeth o swyddogaeth offeiriad yn wahanol i ddealltwriaeth aelodau traddodiad uchel yr eglwys honno ac aelodau'r eglwysi Catholig ac uniongred (sydd â'r un ddealltwriaeth, os deallaf i'n gywir, dw i'n siwr y byddai'r Hybarch Abad y Tad Deiniol ym Mlaenau Ffestiniog yn gallu ateb y cwestiwn hwn inni). O ran y traddodiad Diwygiedig - ar wahân i'r eglwysi esgobol a ydynt yn defnyddio'r ferf 'to Priest' i ddisgrifio'r seremoni ordeinio, sefydlu, urddo yn Saesneg - os nad ydynt y peth gorau fyddai gofyn pa derm maent yn ei ddefnyddio a glynu wrth hwnnw. Mae'r broblem yn codi oherwydd bod rhai Anglicaniaid yn defnyddio'r ferf 'priest' yn hytrach nag ordeinio er mai 'seremoni ordeinio' yw'r seremoni! Muiris --- Outgoing mail is certified Virus Free. Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). Version: 6.0.449 / Virus Database: 251 - Release Date: 27/01/03