I mi, y mae'r teitl 'Diwrnod y Llyfr' yn cyfleu diwrnod
sydd wedi'i neilltuo i ddathlu neu ddyrchafu un llyfr arbennig
(cyfieithiad uniongyrchol ydyw o'r Saesneg 'Book Day'). Oni fyddai
'Diwrnod Llyfrau' yn fwy Cymreig? 'Cadair olwyn' a glywir fynychaf hefyd
er bod pedair olwyn ar gadeiriau o'r fath! A ddylem ni ildio i'r drefn a
derbyn mai dim ond lleiafrif bellach fyddai'n dweud 'cadair
olwynion'?
Ken Owen
Marian-glas