Print

Print


Fy phwynt i oedd colli'r 'in' yn y talfyriad yn unig - fel mae'r Saesneg yn
ei wneud gyda HEFCW, FEFCW, HEFCE, etc., lle nad yw'r 'for' yn ddigon pwysig
i fod â lle yn y talfyriad. MAe llwyth o enghreifftiau eraill wrth gwrs.
Dwi'n deall pwynt Muiris, ond mae pethau doniol fel hyn yn codi byth a
beuyndd drwy fynd o un iaith i'r llall.
Gwen

-----Original Message-----
From: Tim Saunders [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 24 January 2003 14:01
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Y Comisiwn Archwilio yng Nghymru


Mae cymhlethdod yn sefyllfa weinyddol y wlad yma i'r graddau'i bod yn dal
dan awdurdodaeth Cyfraith Loegr. Gan hynny, fe fydd  tiriogaeth Cymru o fewn
pwer cyrff canolog gyda'u pencadlysoedd yn Lloegr oni ddarperir i'r
gwrthwyneb. Gan hynny, ni wna 'Comisiwn Archwilio Cymru' mo'r tro.

Tim

-----Original Message-----
From: Glenys Roberts [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 24 January 2003 13:17
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Y Comisiwn Archwilio yng Nghymru


Cytuno'n llwyr.  Ond os oes rhaid cael rhyw dalfyriad i sefyll ar ei ben ei
hun, weithiau mae modd defnyddio rhannau o rai o'r geiriau, yn hytrach na
llythrennau cyntaf pob un o'r geiriau.  Rhywbeth fel COMARCH, neu CARCH, neu
COMCHWIL!!

Glenys
----- Original Message -----
From: Berwyn Jones <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, January 24, 2003 12:35 PM
Subject: Re: Y Comisiwn Archwilio yng Nghymru


> Efallai nad yw'r sylw hwn ddim yn berthnasol yn yr union achos hwn, ond
does
> dim angen defnyddio acronym bob tro y bydd y Saesneg yn gwneud hynny.
Gellid
> dweud 'y Comisiwn' os byddai hynny'n fwy dealladwy na'r acronym.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, January 24, 2003 11:44 AM
> Subject: Re: Y Comisiwn Archwilio yng Nghymru
>
>
> > CAyNgh fyddai'n gywir!
> > Byddai talfyrru Comisiwn Archwilio, Cymru, yn haws, ond yn rhoi acronym
> > anffodus.
> > Mae CAyC yn anghywir, felly mae'n debyg mai CAyN yw'r unig beth posibl.
> > Bruce
> > 5 Heol Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2HS, UK
> > (01248) 371987
> > [log in to unmask]
> > ----- Original Message -----
> > From: Rhodri Jones <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Thursday, January 23, 2003 10:43 AM
> > Subject: Y Comisiwn Archwilio yng Nghymru
> >
> >
> > > A allai ofyn eich barn am y canlynol os gwelwch yn dda.
> > > Yn saesneg mae'r Audit Commission in Wales yn cael ei dalfyrru i
"ACiW".
> > >
> > > Mae'r Cyfarwyddwr yn mynnu cael talfyriad am ein teitl Cymraeg.
> > >
> > > Beth sydd orau??? CAyN...CAyC...????
> > >
> > > A allai gael unrhyw awgrymiadau os gwelwch yn dda.
> > >
> > >
> >