Meddai Mandi Morse: "...ym myd addysg defnyddir 'deilliannau' a 'canlyniadau' i olygu 'outcomes'. Term cymharol newydd yw 'deilliannau' ond wrth geisio sicrhau cysondeb, byddwn yn falch o glywed beth yw barn aelodau'r cylch ynglyn â pha derm sydd fwyaf addas/perthnasol." Byddaf yn defnyddio'r ddau derm yn ôl cyd-destun. Ceir rhai cyd-destunau lle nad yw 'canlyniadau/results' yn briodol, oherwydd nad proses sydd wedi ei chwblhau sydd dan sylw. Gall rywbeth ddeillio ar rywbeth arall heb fod unrhyw beth wedi gorffen. Wyn