Ar un ystyr, mae'n debyg mai Gwyn sy'n 'iawn'. Yn o^l yr hanes a glywais i (y diweddar Moc Rogers, ein hen bennaeth yn Uned Gyfieithu'r Swyddfa Gymreig, a adroddodd yr hanes), fe gynhaliwyd cystadleuaeth i fathu gair Cymraeg am 'television' yn nyddiau cynnar dyfodiad teledu i Gymru. Y bathiad a enillodd - bathiad gan ryw wraig o'r Gogledd, os cofiaf yn iawn - oedd 'teledydd'. Ond gan mai ffurf y ferf o 'teledydd' oedd 'teledu', dechreuwyd arfer hwnnw mewn ymadrodd fel 'set deledu' ac fe edwinodd 'teledydd'. Mae hyn yn codi problem i'r terminolegydd, sef pryd y bydd ffurf 'anghywir' ar air yn disodli ffurf 'gywirach' ... Mae'r Geiriadur Cymraeg Modern a Geiradur yr Academi ill dau'n rhestru 'teledydd' yn eitha gochelgar - occ. sydd o'i flaen yn yr olaf. Ond rwy'n crwydro 'm bach yn rhy bell, efallai, o 'sustainability' ... Berwyn ----- Original Message ----- From: "Kenneth Owen" <[log in to unmask]> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]> Sent: Friday, January 17, 2003 9:51 AM Subject: Re: sustainable/sustainability Diddorol hefyd (ond amherthnasol o safbwynt y drafodaeth ar 'sustainable/sustainability') yw fod Gwyn Thomas bob amser yn defnyddio 'teledydd' yn hytrach na 'teledu'. Ken Owen Marian-glas ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones <[log in to unmask]> To: Ken Owen <[log in to unmask]> Sent: 17 January 2003 09:01 Subject: Re: sustainable/sustainability Diddorol oedd clywed yr Athro Gwyn Thomas yn so^n ar y teledu beth amser yn o^l fod rhywbeth yn 'gynaladwy' a Rhodri Glyn Thomas ar raglen Dewi Pws neithiwr yn cyfeirio at rywbeth arall oedd yn 'gynaladwy'. Wedi dweud hynny, mae'r ffurf 'argyhoeddiedig' i'w chlywed yn fynych ar y cyfryngau y dyddiau hyn. Nid yr henoed yn unig sy'n ddryslyd! Fe seiliwyd Geiriadur Terminoleg y Cynulliad yn bennaf ar ffurfiau a oedd wedi'u defnyddio mewn gwahanol ddogfennau swyddogol. Hyd y cofiaf, wnaethon ni fe ti^m ddim bathu termau fel y cyfryw. Yn hytrach, dewiswyd y geiriau neu'r ymadroddion gorau a'u hargymell. Mater i gyfieithwyr y Cynulliad oedd derbyn neu wrthod yr argymhellion. Byddwn i'n falch iawn pe gallai Meinir roi gwybod i ni pa eiriau a dderbyniwyd, pa eiriau a wrthodwyd a pha eiriau newydd sydd wedi'u hychwanegu at y rhestr. Defnyddiol, hefyd, fyddai cael rhestr o deitlau cyhoeddiadau swyddogol y Cynulliad gan fod llawer o ddogfennau'n cyfeirio at y teitlau hynny heb, o reidrwydd, ddyfynnu ohonynt. (Y peth gwaethaf, wrth gwrs, yw dyfyniadau sydd heb fod yn nodi ar ba dudalen maen nhw i'w gweld!) Berwyn ----- Original Message ----- From: "Evans, Meinir (OPO)" <[log in to unmask]> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]> Sent: Thursday, January 16, 2003 5:06 PM Subject: Re: sustainable/sustainability Mae Gwasanaeth Cyfieithu'r Cynulliad yn defnyddio 'cynaliadwy' a 'cynaliadwyedd' ers blynyddoedd bellach. Dylwn egluro nad geirfa swyddogol y Gwasanaeth Cyfieithu yw'r 'Geiriadur Terminoleg Trefniadaeth' a welir ar wefan Bwrdd yr Iaith. Mae rhagymadrodd y golygydd, Clive Leo McNeir, yn rhoi rhywfaint o gefndir y prosiect. Mae'r geiriadur yn ffynhonnell werthfawr iawn, wrth gwrs, ond, fel y dywed y golygydd, "Yr agwedd bwysicaf ar y geiriadur hwn yw y dylai ddechrau sefydlu'r termau Cymraeg a Saesneg safonol ar gyfer y maes ac nid yw ei gyhoeddi ond yn fan cychwyn, wrth gwrs, i broses a gaiff ei datblygu a'i mireinio mwyfwy". Meinir Evans Y Gwasanaeth Cyfieithu Swyddfa'r Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru -----Original Message----- From: Pennawd Cyf. [mailto:[log in to unmask]] Sent: 15 January 2003 14:26 To: [log in to unmask] Subject: Re: sustainability Roedd nodyn Gareth Bevan yn ateb pwynt Magi Lewis ei bod hithau a sawl un o'i chydnabod, gan gynnwys graddedigion a chyfieithwyr, yn teimlo bod y ffurf 'cynaliadwy' yn swnio'n chwithig, ac yn gofyn pam na chai ddefnyddio'r ffurf 'cynaladwy'. Dywedodd Gareth Bevan fod rhwydd hynt i bawb ddefnyddio 'cynaladwy', o ran GPC. Hefyd, yng ngeirfa swyddogol Adran Gyfieithu'r Cynulliad, ceir 'cynaliadwy' a 'cynaladwy', ond ar gyfer 'sustainability' ni cheir ond 'cynaladwyedd'. Falmai a Claire ----- Original Message ----- From: "David Bullock" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, January 15, 2003 1:34 PM Subject: Re: sustainability Sdim problem fan'na... Cofnodi enghreifftiau o eiriau - yn eu hamrywiol ffurfiau - yw gwaith geiriaduron a geiriadurwyr. Wrth gwrs, mae lle iddyn nhw roi gwybodaeth am sut mae ffurfiau'n cael eu defnyddio, eu hanes a'u tarddiad ac ati, ac mae llawer -os nad y cyfan - ohonyn nhw'n argymell neu yn rhagnodi pa ffurf a *ddylai* gael ei defnyddio yn eu barn nhw. Yn achos y ferf "cynnal", mae'n ddigon clir bod bôn y ferf yn cynnwys yr -i-, ac mai sillafiad sy'n dangos hynny sydd fwyaf cyffredin - ac mae hynny yn aml yn eitha sylfaen ar gyfer diffinio cywirdeb. ----- Original Message ----- From: "Pennawd Cyf." <[log in to unmask]> To: "David Bullock" <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, January 15, 2003 12:51 PM Subject: Re: sustainability > Yn ystod y drafodaeth ar 'cynaliadwy/cynaladwy' ym mis Ebrill y llynedd > nododd Gareth Bevan o Eiriadur y Brifysgol, "yn 1957 ... nid oedd gan staff > y Geiriadur enghraifft o'r ffurf 'cynaladwy'. Pan adolygir y gwaith, fe > gynhwysir y ffurf 'cynaladwy' oherwydd bod gennym enghreifftiau ohoni, gan > gynnwys un o Eiriadur Walters ar ddiwedd y 18fed ganrif." > > Falmai a Claire > This email has been scanned for all known viruses by BT MessageScan, powered by MessageLabs Find out more at http://www.btignite.com/uk/products/messagescan/