Ydy 'geirfa swyddogol' Adran Gyfieithu'r Cynulliad ar gael ar ei gwefan? Dwi'n siwr y bydde fe'n adnodd gwerthfawr i nifer o gyfieithwyr. A beth am ychwanegu'r eirfa at wefan CCC? > ---------- > From: Pennawd Cyf.[SMTP:[log in to unmask]] > Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary > Sent: Wednesday, January 15, 2003 2:25 PM > To: [log in to unmask] > Subject: Re: sustainability > > Roedd nodyn Gareth Bevan yn ateb pwynt Magi Lewis ei bod hithau a sawl un > o'i chydnabod, gan gynnwys graddedigion a chyfieithwyr, yn teimlo bod y > ffurf 'cynaliadwy' yn swnio'n chwithig, ac yn gofyn pam na chai > ddefnyddio'r > ffurf 'cynaladwy'. Dywedodd Gareth Bevan fod rhwydd hynt i bawb > ddefnyddio > 'cynaladwy', o ran GPC. > > Hefyd, yng ngeirfa swyddogol Adran Gyfieithu'r Cynulliad, ceir > 'cynaliadwy' > a 'cynaladwy', ond ar gyfer 'sustainability' ni cheir ond 'cynaladwyedd'. > > Falmai a Claire > > > ----- Original Message ----- > From: "David Bullock" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Wednesday, January 15, 2003 1:34 PM > Subject: Re: sustainability > > > Sdim problem fan'na... > > Cofnodi enghreifftiau o eiriau - yn eu hamrywiol ffurfiau - yw gwaith > geiriaduron a geiriadurwyr. Wrth gwrs, mae lle iddyn nhw roi gwybodaeth > am > sut mae ffurfiau'n cael eu defnyddio, eu hanes a'u tarddiad ac ati, ac mae > llawer -os nad y cyfan - ohonyn nhw'n argymell neu yn rhagnodi pa ffurf a > *ddylai* gael ei defnyddio yn eu barn nhw. > > Yn achos y ferf "cynnal", mae'n ddigon clir bod bôn y ferf yn cynnwys > yr -i-, ac mai sillafiad sy'n dangos hynny sydd fwyaf cyffredin - ac mae > hynny yn aml yn eitha sylfaen ar gyfer diffinio cywirdeb. > > > ----- Original Message ----- > From: "Pennawd Cyf." <[log in to unmask]> > To: "David Bullock" <[log in to unmask]> > Sent: Wednesday, January 15, 2003 12:51 PM > Subject: Re: sustainability > > > > Yn ystod y drafodaeth ar 'cynaliadwy/cynaladwy' ym mis Ebrill y llynedd > > nododd Gareth Bevan o Eiriadur y Brifysgol, "yn 1957 ... nid oedd gan > staff > > y Geiriadur enghraifft o'r ffurf 'cynaladwy'. Pan adolygir y gwaith, fe > > gynhwysir y ffurf 'cynaladwy' oherwydd bod gennym enghreifftiau ohoni, > gan > > gynnwys un o Eiriadur Walters ar ddiwedd y 18fed ganrif." > > > > Falmai a Claire > > >