Print

Print


Diolch am hynny.  Doeddwn i ddim wedi ymateb o'r blaen, oherwydd mod i i fod
i ffonio'r Ganolfan Gymreig yn ol pan oedd y "Welsh speaker" yno.  Chwarae
teg iddynt, 'roedden nhw wedi bod wrthi y bore 'ma yn trafod y mater, heb
fod yn sicr eu hunain ynghylch y math o "conducting" oedd mewn golwg, gan
fod y "conductors" yn gwneud gwaith rhywbeth tebyg i ffisiotherapi ("a lot
of manipulation").  'Roeddwn i wedi dechrau meddwl efallai bod y gair yn
gyfieithiad gwael o'r Hwngareg!

Ers hynny dw i wedi dod ar draws gwefan sy'n disgrifio'r gwaith:

"Conductive Education as the name suggests, is an educational approach. Its
aim is to help children and adults with motor disorders learn to overcome
problems of movement as a way of enabling them to live more active and
independent lives.

"All things are made to feel important in Conductive Education. It's about
your whole being, not just about being taught to speak or walk." (Parent of
six year old boy)

The successful practice of Conductive Education relies on professional,
specialist teachers called 'conductors' who take responsibility for enabling
the physical, intellectual, social and personal development of the children
and adults concerned. Children's educational development is catered for
through the National Curriculum.

Conductors motivate children and adults to acquire the skills they need to
find their own solutions to the practical problems of daily living. This
teaching style encourages the individual to become an active participant in
their own learning process by creating situations which will maximise the
chance of achieving success."

Wel, mae'n debyg bod hynny'n ymwneud a thywys y plant yn eu blaen, felly mi
a i am "Addysg Dywysol", fel yr oedd Bruce wedi'i awgrymu yn y lle cyntaf -
ac mi a i'n ol at y Ganolfan i ddweud hynny wrthynt, i sicrhau cysondeb!

Mae Bruce yn cwyno mod i'n treulio cymaint o amser ar y mater, ond dw i isio
*gwybod*!

Hwyl,

Ann Corkett
5 Heol Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2HS, UK
(01248) 371987
[log in to unmask]
----- Original Message -----
From: David Bullock <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, January 09, 2003 9:23 AM
Subject: Re: conductive education


> Mae gen i gof am ryw adroddiad neu ddeunydd arall ar ran Arolygwyr Ei
> Mawrhydi (yn nyddiau'r Swyddfa'r Gymreig) ar y pwnc, a chynnig addysg
> "ymdywysol" bryd hynny - ar ôl i'r arolygwyr eu hunain gynnig rhywbeth â'r
> elfen -dwyth- ynddo rywle.
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, January 08, 2003 4:56 PM
> Subject: conductive education
>
>
> > Newydd gysylltu a'r Welsh Centre for Conductive Education i holi
ynghylch
> > hyn - 'Well, that's a question I'd never thought of before'.  Os nad
ydyn
> > nhw'n gwybod, pwy fydd?  Mae'n debyg y bydd yn rhaid imi ddarllen
ychydig
> > amdani i weld a yw Addysg Dywysol (cynnig Bruce) yn ddisgrifiad dilys.
> Ond
> > siawns bod *rhywun* wedi dod ar draws y dull a chyfieithu'r term o'r
> blaen.
> >
> > Diolch,
> >
> > Ann
> >
>