A dyma ragor o gynigion: Gwerthwch y sawr, nid y selsig (rhy lythrennol? - a oes gan selsig sawr?!) Gwerthwch y sawr, nid y sebon Gwerthwch y crensian, nid y creision (Hysbyseb i gefn gwlad Cymru) Gwerthwch ei hedd, nid ei ffaeleddau Gwerthwch yr hwyl, nid yr holics Gwerthwch y sglein, nid y sglodyn Gwerthwch y rhin, nid y rhinwedd Er gwybodaeth ac er difyrrwch (gobeithio), clywais Owen Edwards, pennaeth cyntaf S4C, yn dyfynnu'r 'ddihareb': 'Twyll yw bob teledu'! Berwyn ----- Original Message ----- From: Arwel Wynn Owen To: Berwyn Prys Jones Sent: Thursday, January 30, 2003 2:27 PM Subject: Sell the sizzle, not the sausage Unrhyw gynigion am gyfieithiad o'r hen ddywediad hwn?? Diolch Arwel