-----Original Message----- From: Muiris Mag Ualghairg [mailto:[log in to unmask]] Sent: 30 January 2003 10:59 To: [log in to unmask] Subject: Re: Enhanced Disclosure Diolch Meinir, 'Discovery' yn yr ystyr arbennig hwn oedd dan sylw - sef: "Discovery and inspection of documents - disclosure by a party to civil litigation of the documents in his possesion, custody or power ...." Felly, mae'n rhaid bod 'Discovery' yn cyfeirio at y weithred o drosglwyddo'r holl ddogfennau ac ati i'r ochr arall (rhywbeth sy'n bynciol iawn ar hyn o bryd oherwydd penderfyniad y Llys Apêl ddoe" Credaf mai dyma pam y mae Robyn Lewis yn defnyddio 'Dadlennu' ar gyfer 'Disclosure' a 'Datgelu' ar gyfer 'Discovery'. Dw i ddim yn meddwl y byddai 'darfanfod' neu 'dod o hyd i' yn addas yn y sefyllfa hon. Dyma enghraifft lle y mae Saesneg y Gyfraith yn wahanol i Saesneg pob dydd. Dw i ddim yn gyfreithiwr ac yn gwybod braidd dim am y Gyfraith (er dw i'n hoff iawn o ddarllen am y Gyfraith ac yn enwedig cyfraith gyfansoddiadol) ond gallaf weld rhesymeg y termau a awgrymir yng Ngeiriadur y Gyfraith. Muiris --Rhaid cofio hefyd fod ambell i gyfreithiwr Cymraeg, fel llawer o bobl broffesiynol, wedi derbyn ei hyfforddiant yn yr iaith fain ac heb arfer defnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng gwaith. Tim