Print

Print


Mae'n debyg bod 'clusten' yr un mor dechnegol a 'lug' gan fod yn ddau yn dod
o'r tebygrwydd i siap clust.  Edrychwch o dan 'clust' ('clust', yn fwy na
'clusten' yng Ngeiriadur y Brifysgol, ac fe welwch restr hir o bethau sy'n
cael eu henwau am eu bod nhw'n debyg i glust dyn).  Gair arall i edrych arno
fel posibilrwydd yn GyP yw 'dryntol'  (o 'dyrnddolen')
Ann
----- Original Message -----
From: John Puw <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, January 06, 2003 8:26 PM
Subject: Re: 'LUGS'


> Nis gwn Gwen.  Roeddwn yn ymwybodol o'r cyfeiriad at glust yn GYA ac yn
> gybyddus â'r dywediad annymunol Saesneg 'Lug Hole', sy'n cyfeirio at dwll
y
> glust mae'n debyg.  Gobeithio yr oeddwn fod yno derm technegol, o oes cyn
> Thatcher/Blair pan oedd crefftwyr haearn yn parhau i fodoli yng Nghymru.
> ----- Original Message -----
> From: "Gwen Evans" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, January 06, 2003 7:54 PM
> Subject: Re: 'LUGS'
>
>
> clustennau/ clustenni? Geiriadur Ac.
> 'Clust' am y ddolen ar gwpan. Ydy o'r un siap a^r ddolen ar gwpan tybed?
>
> ----- Original Message -----
> From: "John Puw" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, January 06, 2003 7:08 PM
> Subject: 'LUGS'
>
>
> Rhyw erfyn haearn sy'n rhan o follt/colfach yn ôl y sôn
> Diolch am unrhyw gymorth eto
>
> Oddi wrth John Puw,
> [log in to unmask]
>
>