Print

Print


Byddaf yn amau weithiau y gwna^i 'pennaeth' y tro'n iawn ac mai ymffrost
yw'ch galw'ch hun yn 'executive head'. Beth yn union yw'r gwahaniaeth rhwng
y ddau? A yw'n cyfeirio at gorff lle mae Ysgrifennydd yn bennaeth yr ochr
weinyddol (ac felly'n 'executive head') a Chadeirydd yn cadeirio bwrdd o
'gyfarwyddwyr' o ryw fath? Os felly, a fyddai 'pennaeth gweithredu' yn
dderbyniol?

Berwyn

----- Original Message -----
From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Friday, January 17, 2003 2:20 PM
Subject: executive head


> Pennaeth Gweithredol sy'n amlwg, ond dwi'n darllen o'r Gymraeg, ac mae'n
> amwys (executive/acting). Unrhyw gynigion?
> Diolch
> Gwen
>