"Crowe, Richard (OCG)" wrote: > > "chemically inert filtration adjuvant and precipitation agents" a > "chemically inert adsorption adjuvants" > > unrhyw gynigion? dw i ddim yn siwr ydy 'cymhorthion' yn ddigon penodol. > Welaf i ddim o'i le ar 'cymhorthyn*/ cymhorthion' am adjuvant/s: 'cymhorthion arsugno cemegol anadweithiol'. * Mae'n well gen i 'cymhorthyn' na 'cymorth' yn y cyd-destun hwn; am wn i, oherwydd mai nid enw haniaethol sydd yma. Mae sut i gyfieithu 'agent' yn peri penbleth i mi. Nid 'asiant' mi dybiaf, oherwydd i'm clust i person yw 'asiant'. Ceir 'cyfrwng' yng Ngeiriadur yr Academi a'r Termiadur Ysgol, ond byddwn yn dehongli 'cyfrwng gwaddodi' fel 'precipitation medium' sy'n rhywbeth gwahanol. Tybed na fyddai 'hyrwyddwyr gwaddodi' yn cyfleu yr ystyr yn well? Prys _______________________________________________ J P M Jones MA PhD CChem FRSC Prifysgol Cymru - Bangor - University of Wales Trefenai Ffordd Caergybi BANGOR Gwynedd LL57 2PX tel: 01248 382955/383013/351151 ffacs: 01248 383990 _______________________________________________