Meg Elis <[log in to unmask]> gofiodd: > ...am goblyn o bryd o dafod gan f'athro Cymraeg gynt pan ddywedais fy mod > yn mynd "i'r deintydd" Beth yw barn y seiat am natur cyfeiriad e-bost, yn arbennig pe bai'n un sy'n ymddangos yn debyg i enw person? Dim ond ychydig cyn darllen yr atgof am y pryd o dafod roeddwn i wedi "cywiro" tudalen ar y we oedd yn gwahodd cysylltiad "trwy e-bost i hwnma@fanma" i "trwy e-bost at honcw@fancw". (Yn yr un modd, byddwn mae'n debyg wedi gofyn am lythyr hen-ffasiwn "at y Parch Edig, Stryd Ebol, Dre Sel".) Erbyn hyn rydw i'n amheus mai "i" fyddai'n gywir: pe na bai'r cyfeiriad yn debyg i enw person, buaswn i'n hapusach gydag "i" -- "trwy e-bost i blwch@post". Gobeithio na ddylai'r gystrawen newid yn Ôl sillafiad cyfeiriad e-bost? Un peth y gwn i'n sicr, mod i wedi drysu erbyn hyn.