"Wi'n mynd I wisgo'n ffansi nawr," meddai Elfis [ "Sam Tan - Mellt a Gwisg Ffansi" ] Ydy'r uchod yn ddiffygiol mewn unrhyw ffordd? Mae "gwisgo gwisg" yn codi cwestiwn amlwg ( rwy'n siwr bod atebion Dilys iddo ). Rwy'n dal I boeni am "arwynebedd arwyneb" [ llyfyr adolygu TGAU ]. Hwyl Neil Shadrach -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 20 December 2002 11:10 To: [log in to unmask] Subject: Re: dressing up Diolch Ann Rhestr o weithgareddau sydd gen i - "table top games, dressing up, face painting and a musical session with Bongo Clive" - swnio'n ddiddorol! Rwy'n siwr y bydd "gwisgo gwisg ffansi" yn iawn. Cofion Sian -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 20 December 2002 10:56 To: [log in to unmask] Subject: Re: dressing up Dw i ddim am dynnu Bruce i mewn i helynt jyst cyn y Nadolig, ond mae o wedi tynnu fy sylw mwy nag unwaith at y modd mae'r Saesneg yn defnyddio "up" yn ddiangen (stand up, wrap up, close up ayb, ayb), ac yn yr achos hwn, ei gynnig oedd 'gwisgo amdanynt', a finnau'n mynnu bod rhaid gwahaniaethu rhwng "dressing up" a "getting dressed". Cynigiodd wedyn "gwisgo gwisg ffansi", ond wrth feddwl, yn aml iawn mae'r frawddeg dan sylw yn rhywbeth tebyg i "dressing up as the Three Kings", ac yn fan'na, *does* angen dim ond "gwisgo fel". Beth bynnag y dywedwn, dw i'n siwr y bydd pobl yn dweud "gwisgo lan/i fyny", ond yn gyffredinol mae'n werth meddwl a oes angen cynnwys yr "up" ym mhob cyfieithiad. Well i mi roi i fyny, sori, roi'r gorau iddi. Nadolig Llawen i bawb. Ann ----- Original Message ----- From: Non Tudur <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, December 20, 2002 9:54 AM Subject: Re: dressing up > Gwisgo lan fydden i'n ei ddweud! > Hwyl yr W^yl > Non > > -----Original Message----- > From: Sian Roberts [mailto:[log in to unmask]] > Sent: 20 December 2002 09:40 > To: [log in to unmask] > Subject: dressing up > > Cyd-destun - plant yn chwarae. > "Gwisgo i fyny" oedd cynnig y rhain. > > Dymuniadau gorau dros y Nadolig > Sian > Datganiad : CYFRINACHOL: Safbwynt yr awdur yw cynnwys y neges hon; ni cheir > yma o reidrwydd safbwynt Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Neges breifat yw > hon a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd(ion) a enwir uchod yn unig. Gall y > cynnwys fod yn gyfrinachol. Os ydych wedi derbyn y neges hon drwy > gamgymeriad a wnewch chi ymateb a nodi hynny ac yna dileu'r neges. > Gwaherddir unrhyw un arall ac eithrio'r derbynnydd rhag ei defnyddio, ei > chopio, ei datgelu neu ei dosbarthu. > Declaration : CONFIDENTIALITY: The contents of this message are the views of > the author, not necessarily the views of the Snowdonia National Park > Authority. This is a private message intended for the named addressee(s) > only. Its contents may be confidential. If you have received this message in > error please reply to say so and then delete the message. Any use, copying, > disclosure or distribution by other than the addressee is forbidden. > --- Incoming mail is certified Virus Free. Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). Version: 6.0.431 / Virus Database: 242 - Release Date: 17/12/2002 --- Outgoing mail is certified Virus Free. Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). Version: 6.0.431 / Virus Database: 242 - Release Date: 17/12/2002