Sent: Monday, December 02, 2002 8:11
AM
Subject: Re: know-how
'gwybodaeth a phrofiad ymarferol' yw'r
cyfieithiad twt (!) sydd yn fy rhestr - rhestr sydd i'w gweld bellach ar
wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, sef.
Os oes gan unrhyw aelod arall o w-t-c restr o
dermau neu ymadroddion nad ydyn nhw i'w cael yng Ngeiriadur yr Academi neu yn
un o restri termau y Ganolfan Safoni Termau, ac os hoffai gael cartref i'r
rhestr honno, pa mor amrwd bynnag y bo, bydd croeso iddo neu iddi ei
hychwanegu at adran eirfa^u gwefan y Gymdeithas.
Berwyn
----- Original Message -----
Sent: Sunday, December 01, 2002 4:20
PM
Subject: know-how
Dogfen ar eiddo deallusol sy gen i.
Dydy hi ddim yn ddogfen gyfreithiol ond mae'n ceisio rhoi canllawiau yng
nghyd-destun coleg addysg bellach ar bethau fel patentau, hawlfreintiau ac
ati.
Mae 'know-how' yn y cyd-destun yn 'fedr/gwybodaeth' y
mae angen ei gadw/chadw'n gyfrinachol. Mae GyrA yn rhoi 'medr' a
'gallu' ond does yr un o'r rhain ar eu pennau eu hunain yn taro deuddeg yn
hollol. Unrhyw gynigion?
Glenys