Diolch, Berwyn. Roeddwn i wedi defnyddio 'medr a gwybodaeth' ond rwy'n meddwl y newidia i yn y gobaith y daw'r term twt (!) yn dderbyniol. Glenys ----- Original Message ----- From: Berwyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Monday, December 02, 2002 8:11 AM Subject: Re: know-how 'gwybodaeth a phrofiad ymarferol' yw'r cyfieithiad twt (!) sydd yn fy rhestr - rhestr sydd i'w gweld bellach ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, sef. http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/default_cymraeg.asp Os oes gan unrhyw aelod arall o w-t-c restr o dermau neu ymadroddion nad ydyn nhw i'w cael yng Ngeiriadur yr Academi neu yn un o restri termau y Ganolfan Safoni Termau, ac os hoffai gael cartref i'r rhestr honno, pa mor amrwd bynnag y bo, bydd croeso iddo neu iddi ei hychwanegu at adran eirfa^u gwefan y Gymdeithas. Berwyn ----- Original Message ----- From: Glenys Roberts To: [log in to unmask] Sent: Sunday, December 01, 2002 4:20 PM Subject: know-how Dogfen ar eiddo deallusol sy gen i. Dydy hi ddim yn ddogfen gyfreithiol ond mae'n ceisio rhoi canllawiau yng nghyd-destun coleg addysg bellach ar bethau fel patentau, hawlfreintiau ac ati. Mae 'know-how' yn y cyd-destun yn 'fedr/gwybodaeth' y mae angen ei gadw/chadw'n gyfrinachol. Mae GyrA yn rhoi 'medr' a 'gallu' ond does yr un o'r rhain ar eu pennau eu hunain yn taro deuddeg yn hollol. Unrhyw gynigion? Glenys