O ddilyn patrwm 'Termau Gwaith a Gofal Cymdeithasol': estyn allan pendant sy'n swnio fel rhywun penderfynol dros ben neu rywun yn cyflawni trosedd (neu'r ddau) ... (Gyda llaw, cywirer 'pendrantrwydd' o dan 'assertiveness' yn y 'Termau' i 'pendantrwydd'.) A fyddai rhywbeth poenus o dermllyd fel 'allgymorth grymusol' yn taro deuddeg (neu hyd yn oed chwech neu naw)? Berwyn ----- Original Message ----- From: alison layland To: [log in to unmask] Sent: Thursday, November 07, 2002 1:12 PM Subject: assertive outreach Gwasanaeth cefnogaeth ar gyfer pobl gyda salwch meddwl difrifol. Diolch ymlaen llaw am unrhyw gynigion. Alison