anghofiais ddweud, mae'r Cynulliad yn anghywir (dwi'n hoff o ryfygu!). Rwyf wedi rhoi cannoedd o bobl, mae'n siwr, yn yr ystum adfer, mewn pob mathau o safleoedd. I unrhyw nyrs (neu gyn-nyrs) mae'r peth mor amlwg. Tydio ddim affliw o ots ble'r ydych chi - pa siap sydd ar y corff sy'n dyngedfennol bwysig yn yr achos hwn. Safle adfer mewn ysbyty yn debycach i recovery room, nid yr unigolyn (anymwybodol, mae'n eitha tebyg) druan. Magi ----- Original Message ----- From: "Alison Reed" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, November 22, 2002 12:18 Subject: Re: recovery position Diolch i chi gyd am ymateb mor gyflym - ac am gynnig sawl ffynhonnell ddefnyddiol iawn. Yn bersonol, mae'n well gen i'r gair "safle" yn hytrach nag "ystum" a defnyddio "adfer" yn hytrach nag "adferol" - a chadw at fy nghynnig gwreiddiol sef "safle adfer" (gan ddilyn cynnig y Cynulliad). Sut byddwn i'n mynd ati i ddod o hyd i safleoedd perthnasol fel yr un isod ar y We?? Defnyddio "Google" a theipio'r gair "Cymorth Cyntaf"?? Rwy'n siwr bod defnyddio'r We fel hyn o gymorth i ni gyfieithwyr! > ---------- > From: Neil Shadrach[SMTP:[log in to unmask]] > Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary > Sent: Friday, November 22, 2002 11:59 AM > To: [log in to unmask] > Subject: Re: recovery position > > On Fri, 22 Nov 2002 11:27:27 -0000, Alison Reed > <[log in to unmask]> > wrote: > > >Yng nghyd-destun cymorth cyntaf - safle adfer/adfywio? > > > >All unrhyw un gynnig ffynonellau/rhestrau termau sy'n ymwneud b chymorth > >cyntaf - a sut i gael copi o'r rhain os ydynt ar gael? > > > >Byddwn i'n ddiolchgar iawn am unrhyw gymorth. > > "ystum adferol" > http://www.consumereducation.org.uk/health/cymraeg/iechyd/06.htm >