Mae'r elfen 'coze' 'coose' ayyb mewn Cernyweg yn cyfateb i 'coed' mewn Cymraeg. Tim -----Original Message----- From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]] Sent: 19 November 2002 15:09 To: [log in to unmask] Subject: Re: Lydiard O'r 'Oxford Dictionary of English Place-names', Ekwall: 'Lydeard St. Lawrence & Bishop's L~ ... Lydiard Millicent & Tregoze .... Lydeard and Lydiard are situated by prominent hills, to which the name was no doubt originally applied ... The name is British and identical with Litgart (-garth) c 1150 LL (in Wales) whose second element in Welsh "garth", "hill". The first element is not clear. ... L~ Tregoze came to Robert Tregoz by marriage before 1194.' Mae enw Robert Tregoz yn awgrymu ei fod yn dod o Gernyw, neu fod ganddo diroedd yno, er ei fod o wedi methu ffeindio 'Tregoze' fel enw lle yn 'Place-names of Cornwall'. Mae 'coz' yn golygu 'hen' yn Gernyweg a Llydaweg [gweler 'Bro Goz ma Zadou' (sillafu?)], felly mae'r enw'n golygu 'hen-dref' 'hen fferm'. Os ydy Ekwall yn gywir, byddai 'Lydiard' yn cyfateb i 'Llwydiarth', ond yn hen Saesneg, ystyr 'lydiard' (sillafu?) oedd 'llidiart', sy'n fenthyciad ohono. Cymharer yr enw 'Bagwy Llydiart' yn Sir Henffordd, enw hollol Sacsonaidd a ddaeth dan ddylanwad siaradwyr Cymraeg Sir Henffordd. Bruce ----- Original Message ----- From: John D Williams <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, November 19, 2002 2:22 PM Subject: Lydiard > Ar y teledu yn ddiweddar, cyfeiriad at Lydiard Tregoze, Wiltshire. Onid > Llidiart Tregors yw/oedd yr enw yn wreiddiol? > >