Mae'n anodd llunio polisi cwbl bendant ar hyn gan fod rhaid wrth rywfaint o syniad y fawd. Byddwn i'n cyfieithu pob teitl y mae modd ei gyfieithu a gadel y gweddill (enwau brandiau, fel petai - e.e Earthfall') fel y maent. Gall y cyfieithiad ddarllen fel tipyn o gybolfa weithiau, ond mae 'na rai teitlau na allwch chi mo'u cyfieithu. (Wrth gyfieithu i'r Saesneg, byddai'n od gweld 'Cefn' yn ymddangos fel 'Back' neu 'Reverse'!)
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Muiris Mag Ualghairg
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, October 31, 2002 2:46 PM
Subject: Re: orchestra ayyb

Beth sy'n digwydd os yw London Philharmonic yn mynd ar daith i wledydd eraill, ydyn nhw'n defnyddio fersiwn Ffrangeg/Almaeneg ac ati neu'n aros yn 'London Philharmonic'?  Beth sy'n digwydd pan fydd cerddorfa o dramor yn dod yma - dw i'n cymryd ein bod yn sôn am y 'Rome ...' yn hytrach na '... Roma' (neu beth bynnag fyddai'r Eidaleg). Oes unrhyw yn gwybod beth yw'r arfer rwngwladol?
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">annes
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, October 31, 2002 2:28 PM
Subject: orchestra ayyb

Mewn penbleth ac yn crafu pen byth a hefyd - cyfieithu enwau ai peidio. Y rhai disgrifiadol sy'n dan ar fy nghroen i - cerddorfeydd, bandiau, triawdau ayyb ayyb, e.e. Penarth Music & Variety Company, The Penelope Lemon School of Ballet. Newydd gyfieithu dogfen i Neuadd Dewi Sant oedd mor frith ohonyn nhw taswn i heb eu cyfieithu nhw mi fasa mwy na hanner y peth yn Saesneg felly cyfieithu popeth er eu bod weithiau'n mynd yn groes i'r graen. Ysgrifennodd Wynne Lloyd adolygiad o Proms Cymru yn Y Cymro a ddaru o ddim cyfieithu enw'r un Gerddorfa y tu allan i Gymru, e.e. London Philharmonic. Mae'r fater i raddau, dwi'n meddwl, i'r corff sy'n comisiynu'r cyfiethiad benderfynu yn ei gylch ond fasa'n dda gen i glywed eich barn chi.
 
Diolch
 
Annes
 

---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.408 / Virus Database: 230 - Release Date: 24/10/02