----- Original Message -----
Sent: Thursday, October 31, 2002 2:46
PM
Subject: Re: orchestra ayyb
Beth sy'n digwydd os yw London Philharmonic yn
mynd ar daith i wledydd eraill, ydyn nhw'n defnyddio fersiwn Ffrangeg/Almaeneg
ac ati neu'n aros yn 'London Philharmonic'? Beth sy'n digwydd pan
fydd cerddorfa o dramor yn dod yma - dw i'n cymryd ein bod yn sôn am y 'Rome
...' yn hytrach na '... Roma' (neu beth bynnag fyddai'r Eidaleg). Oes unrhyw
yn gwybod beth yw'r arfer rwngwladol?
----- Original Message -----
Sent: Thursday, October 31, 2002 2:28
PM
Subject: orchestra ayyb
Mewn penbleth ac yn crafu pen byth a hefyd -
cyfieithu enwau ai peidio. Y rhai disgrifiadol sy'n dan ar fy nghroen i -
cerddorfeydd, bandiau, triawdau ayyb ayyb, e.e. Penarth Music & Variety
Company, The Penelope Lemon School of Ballet. Newydd gyfieithu dogfen i
Neuadd Dewi Sant oedd mor frith ohonyn nhw taswn i heb eu cyfieithu nhw mi
fasa mwy na hanner y peth yn Saesneg felly cyfieithu popeth er eu bod
weithiau'n mynd yn groes i'r graen. Ysgrifennodd Wynne Lloyd adolygiad o
Proms Cymru yn Y Cymro a ddaru o ddim cyfieithu enw'r un Gerddorfa y tu
allan i Gymru, e.e. London Philharmonic. Mae'r fater i raddau, dwi'n meddwl,
i'r corff sy'n comisiynu'r cyfiethiad benderfynu yn ei gylch ond fasa'n dda
gen i glywed eich barn chi.
Diolch
Annes
---
Outgoing mail is certified Virus
Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version:
6.0.408 / Virus Database: 230 - Release Date:
24/10/02