Print

Print


Yn y Salmau, 106.7 fe geir:
 
Pan oedd ein tadau yn yr Aifft ni wnaethant sylw o'th ryfeddodau...
 
Hyd y gwelaf, does dim cyfeiriad at yr Wyddgrug yn y Beibl.

Ken Owen
Marian-glas
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]>Ann Corkett
To: [log in to unmask]>[log in to unmask]
Sent: 14 October 2002 11:56
Subject: Re: Yr Wyddrug

Yn brysur iawn ac yn mynd i fwrdd, neu mi fyddwn i'n rhoi fy mhig i mewn ynghylch priflythrennau hefyd:  'y' fach i mi, er nad wyf wedi llwyddo i ddarbwyllo Bruce eto.  Onid oes 'na ryw arweiniad i gael rhywle yn y Beibl?
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]>annes
To: [log in to unmask]>[log in to unmask]
Sent: Saturday, October 12, 2002 11:57 AM
Subject: Yr Wyddrug

...ar y llaw arall, yn GYA mae gin Bruce Yr Almaen a Yr Iseldiroedd. Mi fyddai'n dda iawn gin i beidio a gorfod rhoi priflythyren iddyn nhw - mae Y yn dan ar fy ngroen i - mae hi'n bell iawn ar yr allweddell a feda i mo'i chyrraedd hi efo un llaw felly dwi'n gorod iwsio dwy law bob tro. Sori am fod yn wamal ond mae' ddydd Sadwrn a minna newydd orffan cloban oo joban fawr.
 
Annes