Print

Print


Bu hyn yn destun trafod rhwng yr Athro Iolo Wyn Williams a minne beth amser yn o^l. Yn anffodus, fe gollwyd yr e-byst pan gliriwyd cof fy nghyfrifiadur ...

Mater o chwaeth yw hwn yn bennaf. I mi, does dim angen priflythyren gan nad oes pwyslais o fath yn y byd ar y fannod mewn enwau lleoedd, heblaw'r adegau prin pan fydd dyn am gyfleu rhyw ffug-fawredd, e.e. Rwy'n byw yn Y (= Yr Unig Un yn y Greadigaeth) Bala.

(Fe gytunodd yr Athro Iolo gant y gant a^'r ddadl!)

Ar tt 184-185 'Gramadeg y Gymraeg', 'y' fach a roir gan Peter Wyn o flaen enw sawl lle. 'Y' fach hefyd sydd gan Syr Ifor yn 'Enwau Lleoedd' (td 17: 'ger y Drenewydd') a chan Tomos Roberts a Gwynedd O Pierce yn 'Ar Draws Gwlad'.

Wedi dweud hynny, sylwais fod amryw byd o ysgolheigion praff eraill yn troi'r fannod yn briflythyren: Bedwyr drwy gydol 'Gorau Cyfarwydd', Alan Llwyd yn 'Hedd Wyn' - 'yn Yr Ysgwrn' bob tro, a Melville yn gyson yn 'Enwau Tir a Gwlad' (gol. Bedwyr - efallai fod a wnelo hynny rywbeth a^'r peth!).

Pawb at y peth y bo yw hi!

Berwyn

----- Original Message ----- 
  From: Kenneth Owen 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Friday, October 11, 2002 2:25 PM
  Subject: Yr Wyddgrug


  Beth yw'r rheol gydag enw lleoedd a gwledydd sy'n cychwyn gyda'r fannod; a ddylid cael priflythyren ai peidio?  Hynny yw, ai: 'Rwy'n byw yn Yr Wyddgrug' ynteu 'Rwy'n byw yn yr Wyddgrug' sy'n gywir?  Yn yr un modd, ai 'yn Yr Almaen' ynteu 'yn yr Almaen'?

  Mi gysgwn yn dawelach heno o gael ateb!

  Ken Owen
  Marian-glas