A dyfynnu o Monty Python, ''I've been labouring under the misaprehension that ...'' ayyb. Sef yw fy nghamddealltwriaeth - y defnydd o'r fannod. Fel tiwtor Cymraeg i oedolion er 1978, byddaf wastad yn egluro fod geiriau fel car, cae, ayyb yn gallu golygu 'car or a car', 'field or a field' ac weithiau mae angen rhoi 'a' o flaen yr enw yn Saesneg wrth gwrs. Yng nghyd-destun enwau lleoedd, mae rhos i'w gael mewn sawl lle, hyd yn oed dros y ffin mewn lleoedd o gwmpas Ellesmere Port a Crew - mae'n siwr o'r cyfnod pan oedd y rhan yna o Ynysoedd Prydain yng Nghymru. Roeddwn i'n credu fod angen y fannod o flaen ein pentref annwyl ger Wrecsam - sef ar lafar Y Rhos i wahaniaethu rhyngddo a rhyw rosydd eraill. 'It's not just any old Rhos' byddaf yn atgoffa'r myfyrwyr. A threiddiodd 'the/The? Rhos hyll i'r Saesneg hefyd - ddim cyn waethed a 'the Grosville'! Tybiwn mai rhywbeth tebyg oedd yn mynd ymlaen yn yr enw lle Y Bala. Byddwn i'n rhoi'r fannod yn fawr yn achos enw ty, fferm ayyb, ond yn fach o flaen enw gwledydd, oni fai fod yr enw ar arwydd gyhoeddus wrth gwrs. Yours sincerely Brigadier Parkhurst (Mrs) aka Anne Elk (nid 'an Elk'!) 'PS I have not kissed the editor of the Radio Times' - unquote!