Print

Print


Braf gweld bathiadau sy'n rhagori ar y Saesneg o gryn dipyn! O ystyried cymaint o ddefnyddio sydd ar 'to enable', mae'n syndod nad 're-enabled' yw'r ffurf. Hyd y gwn i, does dim berf Saesneg 'to able' ...
 
 O'r tri chynnig, 'ailalluogi' fyddwn i'n ei ddefnyddio. Gellid cadw 'ailgymhwyso' i olygu 'to re-adjust' ac 'ailgynefino' i olygu 'to become reaccustomed' neu 'to get used to ... again'.
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Non Tudur
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, September 17, 2002 3:44 PM
Subject: Re: Re-ablement

Ailalluogi?

Ailgymhwyso?

Ailgynefino?

 

Non

 

 

-----Original Message-----
From: Llinell Gyswllt [mailto:[log in to unmask]]
Sent:
17 September 2002 12:42
To: [log in to unmask]
Subject: Re-ablement

 

Annwyl Gyfeillion,

a all unrhyw un gynnig cyfieithiad am 're-ablement'?. Deallaf fod y term yn ymwneud â chynlluniau sy'n anelu at sicrhau gwell safon bywyd i'r henoed sydd naill ai mewn ysbyty, newydd adael ysbyty, neu'n cael trafferth ymdopi gartref. Esbonnir amcan prosiect 're-ablement' ar wefan Saesneg fel a ganlyn: 'The Re-ablement Project gives short-term support to older people who have just come out of hospital or have been ill at home. We help people to regain skills for living independently and to increase their confidence. We also look at health needs and support carers.'

Diolch, Llinell Gyswllt y Bwrdd Iaith.

 

Datganiad : CYFRINACHOL: Safbwynt yr awdur yw cynnwys y neges hon; ni cheir yma o reidrwydd safbwynt Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Neges breifat yw hon a fwriadwyd ar gyfer y derbynnydd(ion) a enwir uchod yn unig. Gall y cynnwys fod yn gyfrinachol. Os ydych wedi derbyn y neges hon drwy gamgymeriad a wnewch chi ymateb a nodi hynny ac yna dileu'r neges. Gwaherddir unrhyw un arall ac eithrio'r derbynnydd rhag ei defnyddio, ei chopïo, ei datgelu neu ei dosbarthu. Declaration : CONFIDENTIALITY: The contents of this message are the views of the author, not necessarily the views of the Snowdonia National Park Authority. This is a private message intended for the named addressee(s) only. Its contents may be confidential. If you have received this message in error please reply to say so and then delete the message. Any use, copying, disclosure or distribution by other than the addressee is forbidden.