'Budd-da^l' oedd y ffurf a ddefnyddiwyd drwy gydol
y pymtheg mlynedd y bu^m i'n gweithio yn y Swyddfa Gymreig ac fe synnais o weld
bod Delyth wedi hepgor y to bach. Ei dadl dros wneud hynny, os cofiaf yn
iawn, oedd nad ydym yn ynganu'r 'a' yn hir. Nid dwy sillaf gyfartal o ran
acen sydd yma, ond didolnod i wahanu'r 'dd' oddi wrth y 'd'. Mewn cyfuniad fel
'blaendal', er enghraifft, fyddai neb yn breuddwydio rhoi to bach ar yr ail
'a'.
Er 'mod i'n derbyn ei phwynt, mae'n anodd ymysgwyd
rhag arfer bron i ddeg mlynedd ar hugain!
Berwyn
----- Original Message -----
Sent: Tuesday, August 20, 2002 12:07
AM
Subject: Re: Budd-dâl
A Geiriadur Terminoleg Trefniadaeth y Cynulliad -
budd-da^l
Ann
----- Original Message -----
Sent: Monday, August 19, 2002 6:13
PM
Subject: Budd-dâl
A oes yna acen grom ar yr 'a' yn
'budd-dâl'? Mae Geiriadur yr Academi yn rhoi acen ond Termau Gwaith a
Gofal Cymdeithasol yn ei hepgor.
Ken Owen
Marian-glas