Ffordd hyn, bUdd-dal yw'r ynganiad, ac mi rydw i'n tueddu i gydweld efo Berwyn a Glenys. Mae'r acen ar y dal yn chwithig iawn. Wil ----- Original Message ----- From: "Richard Hughes" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, August 20, 2002 9:57 AM Subject: Budd-da^l > Cywir yw 'budd-da^l'! > > Y rhesymeg yw: > > a). Ni ellir darogan a'i byr ynteu hir fydd llafariad gair unsill sydd > yn diweddu ag 'l': felly cawn yr acen grom mewn 'ta^l' (i wahaniaethu > rhwng 'tal' == 'hir'). > > b). Yr unig bryd y ceir acen ar lafariad sillaf olaf gair lluosill yw os > bydd acen ar y sillaf honno pan nas rhagflaenir gan ragddodiad: > felly cawn y gair unsill 'ta^l' a'r gail lluosill 'di-da^l'. > > c). Mewn enw cyfansawdd fel 'iawndal' mae'r acen ar y goben (symudiad): > felly nid oes angen yr acen grom. > > ch). Yn y gair 'budd-da^l' mae angen y cysylltnod i wahannu y graffemau > cytseiniol 'dd-d'; canlyniad dylanwad y cysylltnod yw bod yr > acen yn aros ar y sillaf olaf - nid yw yn symud i'r sillaf obennol: > yngenir 'budd-da^l' nid 'bUdd-dal': felly rhaid cadw yr acen grom. > > d). Eithriad i ch). yw'r gair 'lladd-dy' - ni cheir acen grom ar 'ty^' > pan fo'n elfen olaf mewn gair cyfansawdd (hefyd 'gwesty'/'bathdy'). > > dd). Mae'r cysylltnod yn gwahanu cytseiniaid - nid oes ei angen mewn > gair fel 'cynorthwyydd'. > > e). Mawr ymddiheuraf i Delyth. > > Richard Hughes > Gesellschaft beratender Informatiker > Muenchen > Yr Almaen > --- Outgoing mail is certified Virus Free. Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). Version: 6.0.381 / Virus Database: 214 - Release Date: 02/08/2002