On Fri, Aug 16, 2002 at 12:09:38PM +0100, John D Williams wrote: > Ie, ond beth yw ystyr 'real time' - a bwrw bod ystyr penodol iddo, a sut > mae'r bobl sy'n bathu'r geiriau newydd hyn yn disgwyl i bawb arall eu > deall?! Oes'na amser nad yw'n real? Mae "real time" yn derm cyfrifiadurol lle mae gwybodaeth yn cael ei gyflwyno neu ei ddiweddaru yn digon cyflym fel nad oes oedi a fod y wybodaeth yn dangos y sefyllfa 'nawr' - mae'n dibynnu ar pa mor aml mae'r wybodaeth yn cael ei fesur wrth gwrs. Hynny yw, os yw gwybodaeth (e.e ar y tywydd) yn cael ei samplo bob 5 munud, mae rhaid i'r wybodaeth gael ei brosesu ac ar gael o fewn 5 munud bob tro. -- Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>