'Chwythadwy' o bosib. 'Chwyddedig' fyddwch chi ar ôl cinio Nadolig, a 'chwyddadwy' cyn dechrau arno efallai. O ddilyn cyfres y Termiadur, 'enchwythadwy' fyddai 'inflatable'. Ac mae'r hen ferfenw'n gallu bod mor ddefnyddiol - mi allech chi, mewn cywair anffurfiol, fentro 'cwch efo llawr chwythu'. (Ond byddai'n rhaid dibynnu ar y cyd-destun wedyn i awgrymu mai cael ei chwythu i mewn mae'r gwynt, nid dianc allan!) Mi dawa i rwan, rhag imi ddechrau swnio fel cyfieithydd chwyddedig. Glenys ----- Original Message ----- From: John Puw <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, July 23, 2002 6:24 PM Subject: inflatable 'Mae gen i gwch gyda llawr pwmpiadwy.' Gallwch weld fy mhroblem, gobeithio. Mae'n swnio fel casgliad o gyfieithwyr wedi noson (breswyl) o gynadledda! Mae 'chwyddadwy' yn bosibl, ond dyna sut fydda i'n teimlo ar ôl gormod o ginio 'Dolig. Mae Delyth Prys yn cynnig 'enchwythiad', 'enchwythu' ac 'enchwythedig' yn y Termau Ysgol am 'inflation', 'inflate' ac 'inflated'. Does 'na ddim 'inflatable' yno. Fedar rhywun roi gwynt yn fy hwyliau? Diolch o flaen llaw John Puw Oddi wrth John Puw, [log in to unmask]