Fel hyn yr ysgrifennodd Non Tudur ym mis Chwefror, ynghylch y cwestiwn o ddefnyddio 'AO' ar gyfer 'OS'.  Mae'n debyg y byddai hi neu nick Pugh yn medru helpu:
'Rydyn ni (Parc Cenedlaethol Eryri) wedi siecio hyn gyda phencadlys yr Arolwg Ordnans yn Southampton (Nick Pugh, Yst 404, Arolwg Ordnans, Ramsey Road,Southampton SO16 4GU - 023 8079 2545) a dyma'r ddynes ar y ffon yn dweud yn syth eu bod wedi mabwysiadu'r talfyriad yn swyddogol yng Nghymru, a dyma felly sydd gennym ni ar fapiau ayb yn y Parc. Defnyddiwn gyfeirnod grid AO wrth gyfeirio at bob cais cynllunio er enghraifft. Dwi wedi tsiecio hyn ddwywaith dair, er mwyn bod yn hollol sir bod y sefydliad yn barod i ddefnyddio'r talfyriad Cymraeg.'
 
Ann Corkett
5 Heol Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2HS, UK
(01248) 371987
[log in to unmask]
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]>Gwen Evans
To: [log in to unmask]>[log in to unmask]
Sent: Tuesday, July 23, 2002 12:04 AM
Subject: Bettws a Chymmau

Mae'r client yn mynnu imi sillafu enwau fel 'Bettws' a 'Cymmau' etc. fel hyn, oherwydd '...dyma'r sillafu sydd ar y map O.S '.
  Allwch chi awgrymu sut i'w argyhoeddi fel arall, os gwelwch yn dda?
Bydd angen awdurdod sydd â mwy o rym na'i fap.
Diolch