Fel hyn yr ysgrifennodd Non Tudur ym mis Chwefror, ynghylch y cwestiwn o ddefnyddio 'AO' ar gyfer 'OS'. Mae'n debyg y byddai hi neu nick Pugh yn medru helpu: 'Rydyn ni (Parc Cenedlaethol Eryri) wedi siecio hyn gyda phencadlys yr Arolwg Ordnans yn Southampton (Nick Pugh, Yst 404, Arolwg Ordnans, Ramsey Road,Southampton SO16 4GU - 023 8079 2545) a dyma'r ddynes ar y ffon yn dweud yn syth eu bod wedi mabwysiadu'r talfyriad yn swyddogol yng Nghymru, a dyma felly sydd gennym ni ar fapiau ayb yn y Parc. Defnyddiwn gyfeirnod grid AO wrth gyfeirio at bob cais cynllunio er enghraifft. Dwi wedi tsiecio hyn ddwywaith dair, er mwyn bod yn hollol sir bod y sefydliad yn barod i ddefnyddio'r talfyriad Cymraeg.' Ann Corkett 5 Heol Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2HS, UK (01248) 371987 [log in to unmask] ----- Original Message ----- From: Gwen Evans To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, July 23, 2002 12:04 AM Subject: Bettws a Chymmau Mae'r client yn mynnu imi sillafu enwau fel 'Bettws' a 'Cymmau' etc. fel hyn, oherwydd '...dyma'r sillafu sydd ar y map O.S '. Allwch chi awgrymu sut i'w argyhoeddi fel arall, os gwelwch yn dda? Bydd angen awdurdod sydd â mwy o rym na'i fap. Diolch