Ai fy nychymig i sy'n awgrymu "crib y don" neu a oes rhywun arall wedi clywed hwn o'r blaen. Wedi'r cyfan, rhan bach iawn o'r don ydi'r grib? ----- Original Message ----- From: catrin alun To: [log in to unmask] Sent: Thursday, July 18, 2002 8:28 PM Subject: Re: Tip of the iceberg Diolch Ann. Roeddwn i wedi cymryd mai'r ystyr llythrennol oedd yn y Geiriadur. Mae rhywbeth yng nghefn fy meddwl yn awgrymu fod 'na ddywediad fyddai'n briodol - does dim rhaid iddo fod yn union yr un ystyr, dim ond yr un ysbryd!! Tybed a fyddai 'crafu'r wyneb' yn gwneud y tro? Catrin ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Thursday, July 18, 2002 7:47 PM Subject: Re: Tip of the iceberg Mae Geiriadur yr Academi yn cynnig 'crib/pigyn y rhewfryn', nid oherwydd bod yr ymadrodd ar lafar ond yn niffyg unrhywbeth arall. Ann ----- Original Message ----- From: catrin alun To: [log in to unmask] Sent: Thursday, July 18, 2002 3:33 PM Subject: Tip of the iceberg Dwi'n siwr fod 'na idiom sy'n cyfateb i hwn yn Gymraeg, ond fedra'i yn fy myw feddwl am un! Help! Catrin